Gweithredu Brand
Rydym yn ymdrechu i aros un cam ar y blaen mewn tirlun sy’n newid yn barhaus a sianelau newydd sy’n caniatáu i frandiau gysylltu â defnyddwyr.
Mae hynny, ynghyd â’n hymagwedd bragmatig at ymgyrchoedd gweithredu brand, yn rhoi’r gallu i ni sicrhau bod brandiau yn ffynnu a bod y cynnyrch yn gwerthu.
Mae ein harbenigedd ym maes gweithredu brand yn cynnwys datrysiadau o ddechrau’r broses i’r diwedd, gan gynnwys marchnata trwy brofiadau, marchnata i siopwyr a manwerthwyr, e-fasnach, gwerthu cymdeithasol, uniongyrchol i’r defnyddiwr (DTC), marchnata drwy ddylanwadwyr ac arloesi creadigol. Drwy gyfrwng rhaglenni hyrwyddo a ffyddlondeb – ble bynnag mae’r defnyddwyr, byddwch chi’n dod o hyd i ni.