Hysbysebu Recriwtio
Rydyn ni wedi hen ennill ein plwyf mewn hysbysebion recriwtio, gyda dros 45 mlynedd o brofiad. Gan weithio gyda chleientiaid fel Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru / Welsh Water, a Cyfoeth Naturiol Cymru, rydyn ni’n darparu arbenigedd lleoliadau hysbysebion recriwtio ar gyfer pob swydd.
Felly, p’un ai a oes angen proffil uchel neu recriwtio strategol untro arnoch, neu fwy nag un lleoliad ar gyfer canolfannau cyswllt, rydyn ni’n gwybod lle mae eich darpar recriwtiaid yn treulio eu diwrnod cyfryngau a pha leoliadau bwrdd swyddi sydd orau i’w cyrraedd.
Dydyn ni ddim yn un o’r prif asiantaethau hysbysebu recriwtio arbenigol yng Nghymru am ddim rheswm.